Blasu Gwin
Mae bwrdd mawr blasu i 18 o fobl ar y llawr cyntaf. Dewch i fwynhau un o sesiynau blasu gwin gyda Dylan yn rhannu ei wybodaeth eang mewn awyrgylch chyfforddus a hwyl. Gallwch drefnu blasu preifat i chi a'ch ffrindiau neu dathlu penblwydd yma. Gyrrwch eich ebost i ni os hoffech fod ar ein rhestr ebost i gael newyddion am ddigwyddiadau.
​
Ni fyddwch yn hir yn ein darganfod yn Nolgellau, rydym yn llai na thafliad carreg o’r Sgwâr hyfryd ble mae bwrlwm y dref. Adeilad newydd? Na, ond wedi cael cryn dipyn o sylw gennym i atgyfodi rhai o’r rhinweddau hardd oedd wedi’u cuddio. Mae’n dyddio yn ôl i’r 17feg ganrif ond mae estyniad gwydr yn pontio i’r 21ain ganrif ac yn fframio’r adeilad nobl yma mewn ffordd sensitif a modern.
​
Gallwch ymweld â’r adeilad unrhyw bryd yr ydym ar agor – yn wir, rydym wrth ein bodd yn dangos y lle i chi felly dewch yn llu! Mae ystafell flasu i fyny’r grisiau a stafelloedd bach moethus i gael paned, gwydred neu i eistedd a darllen.
Gallwch weld hanes y gwaith a’r lluniau yn ein blog.
CYFEIRIAD
Gwin Dylanwad Wine,
Porth Marchnad, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1ET
ORIAU AGOR
Maw - Mer 10yb - 6yh
Thurs - Sat 10yb- 11yh
​
​
CYSWLLT
01341 422 870
DILYN