top of page

Cyfanwerthu

CYFANWERTHU

Oes pryder gennych am y gwin yn cydweddu a safon eich bwyd? Gyda chwsmeriaid yn fwy deallus am win  mae rhestr dda yn bwysig i brofiad eich gwesteion. Mae bron 30 mlynedd o brofiad yn y byd bwytai a gwin gennym gyda 23 mlynedd yn y Good Food Guide a chlod am y rhestr win. Cawsom ein rhestru yn llyfr Neville Bletch yn y 10 rhestr win orau ym Mhrydain. Mae Hugh Johnson, arbenigwr byd-enwog gwin yn ein cydnabod: ‘Great little wine merchant in Dolgellau’.

​

Mae dros 30 o siopau, bwytai a gwestai yng Nghymru wedi dewis ein gwasanaeth cyfanwerthu ni yn barod. Pam?

​

Rydym yn:

•    Deall anghenion eich busnes chi

•    Cynnig safon, gwerth am arian a gwasanaeth dibynadwy 

•    Enw da sy’n adnabyddus a chyfystyr a safonau uchel 

•    Creu rhestr win ac argraffu i chi

•    Darparu gwinoedd i’ch bwrdd ‘spesials’

•    Darparu hyfforddiant staff i godi eu gwybodaeth broffesiynol

​

​

Success! Message received.

Ni fyddwch yn hir yn ein darganfod yn Nolgellau, rydym yn llai na thafliad carreg o’r Sgwâr hyfryd ble mae bwrlwm y dref. Adeilad newydd? Na, ond wedi cael cryn dipyn o sylw gennym i atgyfodi rhai o’r rhinweddau hardd oedd wedi’u cuddio. Mae’n dyddio yn ôl i’r 17feg ganrif ond mae estyniad gwydr yn pontio i’r 21ain ganrif ac yn fframio’r adeilad nobl yma mewn ffordd sensitif a modern.

​

Gallwch ymweld â’r adeilad unrhyw bryd yr ydym ar agor – yn wir, rydym wrth ein bodd yn dangos y lle i chi felly dewch yn llu! Mae ystafell flasu i fyny’r grisiau a stafelloedd bach moethus i gael paned, gwydred neu i eistedd a darllen.

 

Gallwch weld hanes y gwaith a’r lluniau yn ein blog.

CYFEIRIAD

Gwin Dylanwad Wine,

Porth Marchnad, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1ET

ORIAU AGOR

Maw - Mer 10yb - 6yh

Thurs - Sat 10yb- 11yh

​

CYSWLLT

01341 422 870

dylan@dylanwad.co.uk

DILYN

  • White Twitter Icon
  • White Facebook Icon
  • White Instagram Icon
bottom of page