Croeso i'r Tîm!
Mae dros 30 mlynedd o brofiad gan Dylan a Llinos yn y byd arlwyo ac maent wrth eu boddau yn rhannu eu profiadau gyda chi. Mae Dylan yn cyfrannu'n rheolaidd i raglen S4C: ‘Prynhawn Da’ a radio Cymraeg. Maent wedi ysgrifennu llyfr, sef ‘Bwyd a Gwin’ ac erbyn hyn, mae'r fersiwn Saesneg ‘Rarebit and Rioja’ ar gael hefyd.
Emma and Terri yw'r ddwy aelod o staff hapus a brwdfrydig yma. Does dim llawer o adolygiadau sydd ddim yn son am eu croeso cynnes a gwen siriol. Mae'r ddwy wedi llwyddo i basio eu cwrs gwin Wset Lefel 2 gyda theilyngdod ac yn datblygu eu haddysg yn y maes gwin trwy ymweld a gwinllanoedd yn y Loire a Rioja yn ogystal a mynychu'r ffair win Vinitaly yn Yr Eidal. Bywyd caled ganddynt!
Ni fyddwch yn hir yn ein darganfod yn Nolgellau, rydym yn llai na thafliad carreg o’r Sgwâr hyfryd ble mae bwrlwm y dref. Adeilad newydd? Na, ond wedi cael cryn dipyn o sylw gennym i atgyfodi rhai o’r rhinweddau hardd oedd wedi’u cuddio. Mae’n dyddio yn ôl i’r 17feg ganrif ond mae estyniad gwydr yn pontio i’r 21ain ganrif ac yn fframio’r adeilad nobl yma mewn ffordd sensitif a modern.
​
Gallwch ymweld â’r adeilad unrhyw bryd yr ydym ar agor – yn wir, rydym wrth ein bodd yn dangos y lle i chi felly dewch yn llu! Mae ystafell flasu i fyny’r grisiau a stafelloedd bach moethus i gael paned, gwydred neu i eistedd a darllen.
Gallwch weld hanes y gwaith a’r lluniau yn ein blog.
CYFEIRIAD
Gwin Dylanwad Wine,
Porth Marchnad, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1ET
ORIAU AGOR
Maw - Mer 10yb - 6yh
Thurs - Sat 10yb- 11yh
​
CYSWLLT
01341 422 870
DILYNWCH NI